Ein llyfrgell
Mynediad i lyfrgell o fyfyrdodau sain dan arweiniad (audio guided meditations) a baddonau sain Cwmwl Clyd am y flwyddyn gyfan. Ychwanegir defnydd newydd bob mis. Dewiswch fyfyrio ar: Llonyddu, Hapusrwydd, Straen a Phryder, Arholiadau, Ffrindiau a mwy.

Does dim angen hyfforddiant
Mae'r myfyrdodau sain hyn ar gyfer athrawon i ddarparu i'w disgyblion. O ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd, colegau ac addysg pellach. Nid oes angen costau drud i hyfforddi athrawon, dim ond dewis myfyrdod ac i ffwrdd â chi!

Unrhywle, unrhywbryd
Gallwch chi ddefnyddio ein myfyrdodau unrhyw amser o'r dydd. Rhai amseroedd gwych i fyfyrio yw yn ystod amser cofrestru, ar ddiwedd dyddiau ysgol, cyn tymhorau arholiadau, yn ystod amseroedd cosb ac ar ddechrau unrhyw wers. Mae'r myfyrdodau yn para rhwng 4 - 20 munud.

Sut mae'n gweithio
Mae myfyrdod a meddwlgarwch yn help gyda:
-
Gwella ffocws a sylw, canlyniadau arholiadau ac iechyd meddwl
-
Cynyddu lefelau hapusrwydd a hyder
-
Gostwng cyfraddau absenoldeb a straen academig

