Ein nod
Mae symudiad gref ar led yn y DU o fyfyrdod a meddwlgarwch ac mae Cwmwl Clyd yn hynod o falch i fod ar flaen y gad. Ein ffocws yw helpu i greu plant ac oedolion ifanc hapusach, mwy hyderus a galluog trwy canolbwyntio ar eu hiechyd meddwl. Trwy ddarparu myfyrdodau yn y Gymraeg, ein nod yw helpu ysgolion a cholegau Cymraeg i wella eu canlyniadau arholiadau ymhellach, gostwng eu cyfraddau absenoldeb ac yn y pen draw eu helpu i gyflawni eu potensial.




Siwan Reynolds, Prif Weithredwr Cwmwl Clyd
“Mae fy mreuddwyd o wasgaru myfyrdod i’r genhedlaeth nesaf yn dod yn realiti, fy nod yw i wasgaru’r arfer o fyfyrio i fwy a mwy o blant bob blwyddyn. Dewch i ymuno â ni yn Cwmwl Clyd er mwyn helpu i ofalu am les meddyliol plant ar gyfer y dyfodol.”
Sut ddechreuodd y cyfan ...
Mae Siwan Reynolds yn ymarferydd myfyrdod o Gaerdydd a sefydlodd Cwmwl Clyd yn 2018.
Yn 14 oed, cafodd Siwan ddiagnosis o epilepsi.
Byddai'r trawiadau (seizures) yn aml yn gwneud bywyd yn heriol. Gan bod meddyginiaeth Siwan yn achosi blinder a cof gwanach gorfodwyd i ddod o hyd i ffordd arall i geisio lleihau’r trawiadau.
Daeth Siwan ar draws erthygl yn y papur newydd a awgrymodd y gallai myfyrdod helpu.
Ysbrydolodd hyn i Siwan fyfyrio am 20 munud pob nôs. Ar ôl 4 mis sylwodd Siwan bod ei bywyd wedi newid yn llwyr. Nid yn unig gostyngodd ei trawiadau ond cynyddodd ei hegni corfforol. Roedd gan Siwan cof gwell, graddau uwch yn y brifysgol a roedd wedi dod yn berson hapusach a mwy hyderus – ymysg nifer fwy o welliannau!
Arweiniodd hyn at Siwan i gredu'n gryf bod angen i bawb brofi'r gwelliannau gwych mae myfyrdod yn cynnig. Dyma pryd ddaeth ei syniad Cwmwl Clyd. Yn fuan ar ôl derbyn gradd mewn Seicoleg, aeth Siwan i Ysgol Myfyrdod Prydain (British School of Meditation) i gael ei hyfforddi a cymhwyso fel ymarferydd myfyrdod.
Bwrdd Cynghori


Cynorthwydd a Cynghorydd Cynnwys
Daryn Groves
Cynorthwydd a Cynghorydd Cynnwys sy'n arbenigo mewn effeithiau sain binaural ar gyfer meddwlgarwch a myfyrdodau sy'n atgyfnerthu hunan-gred, gofalu am eraill a darganfod ein lle yn y byd.
‘Heddwch a chariad sy’n arwain y ffordd er gwaethed beth mae eraill yn gwneud neu ddweud. Credwch yn eich hun, doed a ddelo. Fe wnaiff pawb ddarganfod lle i’w hun'.

