top of page
Virtual Meditation

Cwmwl Clyd adref...

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn caniatáu i ysgolion i adael i'w disgyblion gael mynediad i Cwmwl Clyd yng nghysur eu cartref eu hunain!

 

Bydd hyn yn helpu i leddfu unrhyw ansicrwydd o gwmpas cyfnodau clo COVID ac hefyd yn caniatáu i ddisgyblion gael mwy o le personol os dyma beth sydd angen arnynt.

Sut i Rhannu Cwmwl Clyd â'ch disgyblion

Gall plant ddefnyddio ein llyfrgell trwy fewngofnodi yn ystod dosbarth ar-lein neu pryd bynnag yng nghysur eu cartref eu hunain!

Pam? Gall Cwmwl Clyd fod yn ysgwydd cefnogol a math o ffynnon bositif i blant pryd bynnag y mae ei angen arnynt.

Rhannwch bosteri a gemau meddwlgarwch yn ystod eich dosbarth ar-lein trwy rannu'ch sgrin! (Google Meet – Presentation mode).

Syniad: Beth am fyfyrio gyda'ch gilydd neu trafod un o'n posteri yn ystod dosbarth ar-lein neu hyd yn oed neud un o'n hymarferion meddwlgarwch?

Cofiwch: Mae'n dda i lês athrawon ymuno a’r myfyrdod hefyd!

feb19-cloud1.png
bottom of page